Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Mawrth 2022
Amser:
09.30 -
10.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12665
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Andrew RT Davies AS Heledd Fychan AS John Griffiths AS |
Tystion: |
Douglas Bain, Comisiynydd Safonau |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r Comisiynydd Safonau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
2 Adolygiad o'r polisi Urddas a Pharch
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Prif Weithredwr.
3 Cod ar gyfer Aelodau Dynodedig Plaid Cymru sy'n Cymryd Rhan yn y Cytundeb Cydweithio
3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chymerodd dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch Cod y Gweinidogion.
4 Cofrestr Buddiannau’r Aelodau
4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur a chytunodd y dylai'r Swyddfa Gyflwyno gyhoeddi'r Gofrestr Buddiannau gyfan bob tymor.
5 Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).